E-lyfrau Casgliad Digidol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Logo y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Isod ceir Casgliad Digidol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae hwn yn gasgliad o e-lyfrau ysgolheigaidd sy’n ddefnyddiol ar gyfer astudiaethau academaidd staff a myfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac sydd wedi bod allan o brint yn eu ffurf bapur draddodiadol. Dymunwn ddiolch i ddeiliaid hawlfraint y gwahanol lyfrau am eu caniatâd caredig i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol eu hatgynhyrchu yma ar ffurf ddigidol.

Ychwanegir at y Casgliad yn rheolaidd, a gobeithir cael 40 llyfr wedi’u cyhoeddi erbyn diwedd 2013.

Os hoffech enwebu llyfrau addas i’w hychwanegu at y Casgliad Digidol, cysylltwch â mared.roberts@bangor.ac.uk

Caiff y llyfrau hyn eu digido fel rhan o broject DECHE (Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Electronig) sy’n cael ei ddarparu gan Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ogystal â chynhyrchu e-lyfrau, mae’r project yn creu corpws ar-lein o’r testunau, sydd ar gael i bawb at ddibenion ymchwil.

(Cliciwch ar glawr llyfr i weld ei fanylion ac i’w lwytho i lawr)

Ac Onide Y Bom Atom ar y Llwyfan Prydeindod Yr Argyfwng Gwacter Ystyr
Ni Fyn y Taeog Mo'i Ryddhau Gwaedd yng Nghymru Dinasyddiaeth Bur ac Areithiau Eraill Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb
A Raid i'r Iaith ein Gwahanu? Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol

Cyfarwyddiadau
I ddarllen yr e-lyfrau hyn bydd angen un o’r canlynol arnoch:

Ffôn clyfar ac ap e-ddarllen

iPhone iBooks, Bluefire Reader*, Kindle, Kobo
Android Bluefire Reader*, FBReader**, Kindle, KoboMoon Reader Pro** (am dâl)
Windows Phone Bookviser, Kindle, Legimi, Nokia Reading
Blackberry Book Burner (am dâl), FBReaderKindle, Kobo
Nokia (Symbian) Ionic, Bubue

Tabled ac ap e-ddarllen

iPad Bluefire Reader*, iBooks, Kobo
Tabled Android Bluefire Reader*, FBReader**, Kindle, Kobo

E-ddarllennydd pwrpasol

Kindle Llwythwch yr e-lyfr i lawr i’ch cyfrifiadur ac yna’i drosglwyddo i’ch dyfais.
Kobo Llwythwch yr e-lyfr i lawr i’ch cyfrifiadur ac yna’i drosglwyddo i’ch dyfais.
Sony Llwythwch yr e-lyfr i lawr i’ch cyfrifiadur ac yna’i drosglwyddo i’ch dyfais.

Cyfrifiadur

Windows ADE, FBReaderKobo, Calibre
Mac ADE, FBReader, KoboCalibre
Linux CalibreFBReader

* Gallu agor e-lyfrau Gwales.com hefyd
** Gallu defnyddio lleisiau Cymraeg synthetig IVONA i lefaru cynnwys e-lyfrau

Dyma fideo yn dangos sut mae technoleg llais synthetig Cymraeg yn gweithio ar declynau Android:

[ylwm_vimeo]75217618[/ylwm_vimeo]

Gosod yr e-lyfr ar eich dyfais
Gwnewch yn siwr bod meddalwedd e-ddarllen ar eich dyfais (gweler y dewisiadau uchod).

Ym mhorwr eich dyfais, ewch i dudalen we y llyfr priodol drwy glicio ar ddelwedd o’r llyfr priodol uchod.

Cliciwch ar y ddolen briodol yn y blwch gwyrdd i lwytho’r ffeil i lawr i’ch dyfais. Dylai eich dyfais roi’r dewis i chi agor y ffeil gyda’r rhaglen berthnasol.

Gall y rhan fwyaf o raglenni e-ddarllen agor ffeiliau EPUB, ar wahân i ddyfeisiau Kindle sy’n defnyddio eu fformat eu hunain. Mae ffeiliau PDF yn fwy addas ar gyfer eu hargraffu, ond yn llai hylaw ar eich sgrin.