Casgliad o gorpora ysgrifenedig Cymraeg a dwyieithog ar-lein yw Porth Corpora Cenedlaethol Cymru, ac mae modd eu chwilio drwy ryngwyneb hwylus.

Mae Porth Corpora Cenedlaethol Cymru yn darparu rhyngwyneb chwilio, sy’n chwilio am eiriau, termau neu ymadroddion, ac fe’u dangosir yn ôl cyd-destun eu defnydd. Hefyd, os oes cyfieithiad o’r testun ar gael, gall ddangos hwnnw ochr yn ochr â’r gwreiddiol.

Chwilio Corpws Cyfochrog Cofnod y Cynulliad
Chwilio Corpws Enghreifftiol Cyweiriau Iaith
Chwilio Corpws Electronig o’r Gymraeg (CEG)
Chwilio Corpws o Ddeunyddiau Ysgolheigaidd Cymraeg DECHE

 

Dadansoddi Iaith Naturiol Cymraeg

Mae’r Porth Corpora yn defnyddio meddalwedd lemateiddiwr yr Uned Technolegau Iaith i ganfod unrhyw ffurf ar air Cymraeg, hyd yn oed os yw’r ffurf honno yn un wedi’i threiglo, ei rhedeg neu ei ffurfdroi fel arall. Gellir hefyd dewis opsiwn i chwilio am ffurfiau yn union fel maen nhw’n ymddangos yn y corpora.

 

Adnoddau Corpora Eraill

Mae’r Porth Corpora hefyd yn cynnig dolenni i gorpora eraill a all fod o ddiddordeb i ymchwilwyr. Cynhyrchwyd rhai o’r rhain gan Brifysgol Bangor, a rhai gan sefydliadau eraill.

Cofiwch hefyd am yr adnoddau corpora sydd ar ein Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol. Adnoddau i’w llwytho i lawr gan ddatblygwyr ac ymchwilwyr yw’r rhain, ond maent yn cynnwys Corpws Trydariadau Cymraeg, a Chorpws Testunau Cymraeg Facebook.